Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-02-15
CLA483 - The Sea Fishing (Points for Masters of Fishing Boats) Regulations 2014
Mae’r rheoliadau cyfansawdd hyn yn gweithredu gofynion ynghylch polisi cyffredin yr UE ar bysgfaoedd. Maent yn ymestyn i Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr (ac yn rhannol yr Alban).
Mae’r rheoliadau yn darparu ar gyfer system o bwyntiau ar gyfer meistri llongau pysgota yn y DU sydd wedi cyflawni troseddau difrifol. Er enghraifft, os oes gan feistr 10 pwynt fe’i gohiriwyd rhag meistroli llong bysgod am 2 fis. Os oes gan feistr (ar unrhyw un adeg) 90 pwynt, fe’i gwaharddwyd rhag meistroli llong bysgod.
Mae’n drosedd i gyflogi meistr i feistroli llong bysgod yn y DU tra bod meistr wedi’i ohirio neu ei wahardd.
Mae’r rheoliadau hefyd yn darparu bod y Marine Management Organisation (MMO) yn sefydlu cofrestr o feistri’r DU, sy’n cofnodi manylion o’r pwyntiau a ddosbarthwyd i feistri.
Gweithdrefn: Cyfansawdd Negyddol
Craffu technegol
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Diffiniad “British National”
1.1 Mae’r diffiniad o “British National” yn rheoliad 2 yn cynnwys tri chategori o berson. Un categori yw ‘British citizen’ – ni ddiffinnir hwn ymhellach. Categori arall yw ‘British subject’ – diffinnir hwn trwy gyfeiriad at Ran IV o Ddeddf Cenedligrwydd 1981.
1.2 Ceir ystyr British citizen yn Rhan I o Ddeddf Cenedligrwydd 1981. Nid yw’n glir pam mae cyfeiriad at Ddeddf 1981 yn rhan o ddiffiniad British subject, ond nid British citizen.
Rheol Sefydlog 21.2(v): bod angen eglurhad pellach ynglŷn â ffurf neu ystyr yr offeryn am unrhyw reswm penodol.
2. Nodi dyddiad cychwyn gohiriad yn y gofrestr
2.1 Gellir dosbarthu pwyntiau am gollfarn yn y DU ac am gollfarn tu allan i’r DU.
2.2 Os ychwanegir pwyntiau i gofrestr yr MMO ar ôl collfarn yn y DU, ac os yw hyn yn peri gohiriad neu waharddiad, rhaid i ddiwrnod cyntaf y gohiriad neu’r gwaharddiad fod o leiaf un diwrnod ar ôl i’r pwyntiau gael eu cynnwys yn y gofrestr.
2.3 Fodd bynnag, nid oes darpariaeth gyfatebol os ychwanegir y pwyntiau ar ôl collfarn tu allan i’r DU.
2.4 Nid yw’n glir pam mae anghysondeb.
Rheol Sefydlog 21.2(v): bod angen eglurhad pellach ynglŷn â ffurf neu ystyr yr offeryn am unrhyw reswm penodol.
3. Cychwyn cyfnod gohiriad
3.1 Mae rheoliad 10 yn nodi cyfnodau gohiriad gwahanol, yn ddibynnol ar faint o bwyntiau sydd gan feistr. Os oes gan y meistr 18 i 35 pwynt, gohiriwyd y meistr am 2 fis. Os oes gan y meistr 36 i 53 pwynt, gohiriwyd y meistr am 4 mis.
3.2 Gellir cael sefyllfa lle mae meistr wedi’i wahardd am 2 fis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw daw trosedd arall i’r amlwg. Gall yr ail drosedd fynd â’r meistr i diriogaeth gohiriad am 4 mis.
3.3 Nod yw’n glir o’r rheoliadau ar ba amser byddai’r cyfnod o 4 mis yn cychwyn. A yw’r 4 mis yn cychwyn yn syth (ac felly’n gorgyffwrdd â’r 2 fis), neu a oes rhaid cwblhau’r cyfnod o 2 fis yn gyntaf?
3.4 Mae gohiriad rhag meistroli llong bysgod yn tynnu bywoliaeth i ffwrdd, felly mae angen bod yn glir pryd mae’r cyfnod gohiriad yn cychwyn.
Rheol Sefydlog 21.2(v): bod angen eglurhad pellach ynglŷn â ffurf neu ystyr yr offeryn am unrhyw reswm penodol.
4. Yn Saesneg yn unig
4.1 Mae’r rheoliadau cyfansawdd hyn yn ddarostyngedig i drefn seneddol San Steffan, ac felly maent yn Saesneg yn unig.
Rheol Sefydlog 21.2(ix): nid yw’r offeryn wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ionawr 2015